Mae swyddogion yr heddlu sy’n ymchwilio i farwolaeth yng Nghaerdydd, wedi cyhuddo dyn o lofruddiaeth.

Bu farw Malaciah Joseph Thomas yn Grangetown yn ystod oriau mân bore Llun (Gorffennaf 23).

Mae’r heddlu wedi cyhuddo Awez Jamshaid, 19 oed, o ardal Trelái o lofruddiaeth, ac fe fydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd y bore yma (dydd Gwener, 27 Gorffennaf).

Mae dau ddyn arall wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac maen nhw’n parhau yn y ddalfa.

Fe gafodd dyn 29 oed o Gaerdydd ei arestio ddydd Mercher yn Maidstone gan Heddlu Swydd Gaint, tra bo dyn 20 oed o Gaerdydd wedi’i arestio yng nghanol Llundain ddoe.

Mae teulu Malaciah Joseph Thomas wedi cael eu diweddaru am yr achos, ac maen nhw ar hyn o bryd yn derbyn cymorth gan swyddogion cymorth teulu arbenigol.