Jess Yeomans, ffermwraig sy’n magu geifr ger Y Fenni, sydd wedi’i dewis yn Ffermwraig y Flwyddyn 2018 yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd.

Mae hi a’i gwr, Gary, yn rhedeg busnes llwyddiannus o fferm y teulu yn Llanwytherin, yn darparu llaeth gan y 900 o greaduriaid Saanen a Toggenburg croes ers iddyn nhw arallgyfeirio yn 2002.

Maen nhw hefyd yn magu gyrr o ryw ugain o wartheg duon Cymreig.

Mae Jess Yeomans hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus ar y fferm – o dripiau ysgolion i ffeiriau.