Mae dros bumed o ddisgyblion a fu’n chwilio am le mewn prifysgol eleni wedi derbyn ‘cynnig diamod’, yn ôl ystadegau newydd.

Trwy roi ‘cynnig diamod’ i ddisgybl ysgol, mae prifysgol yn sicrhau lle iddyn nhw yn eu sefydliad – boed nhw’n ennill graddau digon da neu beidio.

Ac yn ôl data Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau (UCAS), mae 58,385 o ddisgyblion (22.9%) yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi derbyn cynigion o’r fath eleni.

Mae hynny’n dipyn o gynnydd o gymharu â phum mlynedd yn ôl, pan oedd dim ond 2,570 (1.1%) o ymgeiswyr wedi derbyn ‘cynnig diamod’.

Mae nifer o gyrff wedi beirniadu prifysgolion yn sgil cyhoeddiad y ffigurau, gan ddadlau nad yw disgyblion yn elwa o’r cynnydd.

Beirniadaeth

“Cystadlu rhwng prifysgolion sydd y tu ôl i’r cynnydd anferth yma,” meddai Geoff Barton, Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL).

“Dyw hyn ddim o fudd i ddisgyblion. Mae’n medru annog disgyblion i ymdrechu yn llai â’u lefelau A oherwydd bod ganddyn nhw le.

“Gallai hyn gael effaith arnyn nhw yn ddiweddarach ym myd gwaith, oherwydd bydd cyflogwyr yn ystyried eu Lefel A.”