Mae’n ymddangos fod cyn-Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru, Simon Thomas, wedi gadael Plaid Cymru hefyd, wrth adael ei swydd yn y Cynulliad Cenedlaethol ym Mae Caerdydd heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 25).

Fe ddaeth cadarnhad gan Lywydd y Cynulliad tua 10 o’r gloch y bore ei bod wedi derbyn llythyr ymddiswyddiad gan Simon Thomas, a’i fod yn weithredol yn syth.

Fe ddaeth cadarnhad wedyn gan Heddlu Dyfed-Powys fod dyn wedi’i arestio yn Aberystwyth a’u bod nhw’n ymchwilio i honiadau yn ymwneud â delweddau amheus.

Mae datganiad Cadeirydd Plaid Cymru, Alun Ffred Jones, yn cadarnhau fod Simon Thomas wedi ymddiswyddo o fod yn aelod o’r blaid yn ogystal.

“Mae Plaid Cymru wedi derbyn ymddiswyddiad Simon Thomas fel aelod o’r blaid,” meddai.

“Yn sgîl yr ymchwiliad hwnnw sy’n mynd rhagddo, ni fyddai’n briodol i wneud unrhyw sylw pellach am y tro.”

Yn enw Plaid Cymru 

Fe gafodd Simon Thomas ei ethol yn Aelod Seneddol tros Geredigion yn 2000 yn enw Plaid Cymru, wedi iddo ennill y sedd mewn is-etholiad yn dilyn ymddiswyddiad Cynog Dafis.

Yn 2011, fe gafodd ei ethol yn Aelod Cynulliad Plaid Cymru tros ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac fe ddaliodd ei afael yn y sedd yn etholiad 2016.