Mae chwaraewr rygbi o Samoa wedi’i arestio yn dilyn ymosod ar chwaraewr o Gymru yn Washington.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn ystod cystadleuaeth saith bob ochr yn Washington y penwythnos diwethaf.
Cafodd Tom Williams, chwaraewr Rygbi Gogledd Cymru, anafiadau i’w wyneb ar ôl cael ei daro yn y twnnel gan Gordon Langkilde.
Daeth cadarnhad gan yr heddlu yn San Francisco fod y gŵr o Samoa wedi’i arestio ar amheuaeth o ymosod ac o achosi niwed corfforol difrifol.
Mae ymchwiliad yr heddlu’n parhau, ac fe wnaethon nhw gadarnhau bod tri o chwaraewyr Cymru wedi’u hanafu yn y digwyddiad, a bod Gordon Langkilde yn gyfrifol am ddau o’r achosion.
Mae corff Rygbi’r Byd yn ymchwilio i’r digwyddiad, ac fe gafodd Gordon Langkilde ei wahardd rhag chwarae am weddill y gystadleuaeth.
Collodd Cymru o 27-12 yn erbyn Iwerddon yn rownd gyn-derfynol y Tlws Her, gan orffen yn 11eg ar y cyfan wrth guro Canada o 35-12 yn eu gêm olaf.