Fe fydd RAF y Fali ym Môn yn dod yn brif ganolfan ar gyfer hyfforddi peilotiaid i hedfan awyrennau cyflym.

Daw’r cyhoeddiad hwn wrth i’r Weinyddiaeth Amddiffyn gyhoeddi y bydd RAF Linton-On-Ouse yng ngogledd Swydd Efrog yn cael ei gau, a hynny mewn ymgais i arbed £3bn erbyn 2040.

Mae hi’n bosib hefyd y bydd tîm arddangosfa’r Red Arrows yn symud i’r Fali, wrth i’w pencadlys yn RAF Scamtpton yn Swydd Lincoln wynebu cael ei gau yn 2020.

Fe gafodd y safle hon ei hagor yn 1916, ac mae’n enwog am fod y lleoliad lle cychwynnodd peilotiaid o Sgwadron 617 yr Awyrlu ar eu taith i gynnal cyrchoedd ar argaeau’r Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Bydd hyfforddiant i beilotiaid awyrennau cyflym yn cychwyn yn RAF Fali yn 2019.