Mae llai na thraean o bobol sy’n byw yng nghefn gwlad yn hapus gyda’u heddlu lleol, yn ôl arolwg newydd.

Mae’r arolwg wedi’i baratoi gan Rwydwaith Cenedlaethol Troseddau Cefn Gwlad, gyda thua 20,000 o bobol ledled Cymru a Lloegr wedi’u holi gan y grŵp.

Mae’n nodi mai dim ond 27% o bobol sy’n byw mewn ardaloedd gwledig sy’n fodlon â’r ffordd y mae’r heddlu’n gweithredu o fewn y gymuned.

Mae hefyd yn dweud bod 69% o ffermwyr a rheolwyr busnes yng nghefn gwlad wedi dioddef oherwydd troseddau yn ystod y flwyddyn ddiwetha’.

Ymhlith y materion eraill sy’n achosi pryder i drigolion cefn gwlad yw dympio sbwriel a goryrru – cyfrifoldebau sy’n cael eu rhannu rhwng yr heddlu a’r awdurdodau lleol.

Ond mae’r grŵp yn ychwanegu bod nifer y troseddau ddim yn cael eu hadrodd, gan fod pobol yn credu na fydd unrhyw beth yn cael ei wneud.

“Pryderus”

Yn ôl Comisiynydd Heddlu Gogledd Swydd Efrog, Julia Mulligan, sydd hefyd yn gadeirydd ar Rwydwaith Cenedlaethol Troseddau Cefn Gwlad, mae canlyniadau’r arolwg yn “bryderus”.

“A 10.3m o bobol yn byw mewn ardaloedd gwledig, dyma dueddiadau na allwn ni eu hanwybyddu ymhellach,” meddai.

“Mae pob penderfyniad sy’n effeithio ar y ffordd mae’r heddlu yn genedlaethol yn symud ymlaen, boed yn nawdd neu’n ddiogelwch, yn gorfod ystyried canfyddiadau’r adroddiad hwn.

“Mae angen gwrando ar yr adroddiad yn y dyfodol pan fydd penderfyniadau ar nawdd yn cael eu gwneud.

“Ni allwn barhau i weld nawdd yn cael ei sugno o’r ardaloedd gwledig i’r ardaloedd trefol.”