Mae Plaid Cymru wedi diolch i Nigel Copner am ei waith i’r blaid, yn dilyn ei ymddiswyddiad o fod yn drysorydd iddi.

Mae Nigel Copner yn gyn-ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Blaenau Gwent, ac fe gyhoeddodd ei ymddiswyddiad ddydd Llun (Gorffennaf 23) ar ffurf ebost.

Yn ôl adroddiadau’r BBC, mae Nigel Copner yn honni iddo dderbyn bygythiadau gan gefnogwyr arweinydd y Blaid, Leanne Wood.

Daw hyn ar ôl i Gangen Plaid Cymru Blaenau Gwent ddatgan eu cefnogaeth i Rhun ap Iorwerth, Aelod Cynulliad Ynys Môn yn yr etholiad am arweinyddiaeth y blaid.

Mae’n debyg bod Nigel Copner hefyd wedi beirniadu prosesau mewnol y blaid, gan awgrymu bod angen cyflwyno gwelliannau os ydyn nhw am gipio pŵer.

Ymateb y blaid

“Nid ydym yn cydnabod sylwadau Nigel Copner am brosesau’r blaid,” meddai llefarydd ar ran Plaid Cymru.

“Gwnaed cynnydd yn yr etholiadau lleol ac yn etholiad brys San Steffan y llynedd mewn cyd-destun hynod heriol.

“Mae paratoadau cyson ar waith ar gyfer etholiad nesaf y Cynulliad i sicrhau ein bod yn y safle cryfaf posib o ran cyllid a threfniadaeth. Rydym yn ddiolchgar i Nigel am ei waith.”

Mae llefarydd ar ran Leanne Wood wedi gwadu’r honiadau, gan ddadlau nad oes cofnod o unrhyw gwynion.