Mae teyrngedau wedi’u rhoi i seiclwr a fu farw mewn gwrthdrawiad yn ardal Banwen yng Nghwm Dulais dros y penwythnos.

Bu farw David Leighton Thomas o Flaendulais ger Glyn-nedd yn y fan a’r lle yn dilyn digwyddiad ar yr A4109 am tua 9:15yh ar nos Sadwrn (Gorffennaf 21).

Roedd y gwrthdrawiad hefyd yn cynnwys cerbyd VW Transporter.

“Cymeriad adnabyddus a chyfeillgar”

Mewn teyrnged iddo, mae ei deulu wedi disgrifio’r gŵr 55 oed fel “cymeriad adnabyddus a chyfeillgar o fewn y gymuned leol”.

“Fe fyddai David yn aml yn cael ei weld ar ei feic, sef yr hyn roedd e’n ei garu,” meddai’r datganiad.

“Roedd yn dda gyda’i ddwylo a wastad yn chwilio am rywbeth i’w drwsio.”