Mae Adrian Crompton wedi cael ei benodi’n Archwilydd Cyffredinol newydd ar Gymru, gan gymryd yr awenau oddi wrth Huw Vaughan Thomas.

Yn ei swydd, mi fydd yn gwbl annibynnol o Lywodraeth Cymru, a’i rôl fydd sicrhau nad yw arian cyhoeddus yn cael ei gamddefnyddio .

Hefyd bydd yn craffu ar gyrff cyhoeddus er mwyn sicrhau eu bod yn effeithlon.

Mae Adrian Crompton yn gyn-gyfarwyddwr Busnes yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, ac mae wedi treulio peth amser yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica yn hybu arferion llywodraethu da.

Bydd yn treulio wyth mlynedd wrth y llyw.

“Anrhydedd”

“Mae’n anrhydedd ac yn fraint wirioneddol ymgymryd â’r swydd bwysig hon yng Nghymru,” meddai Adrian Crompton.

“Wrth olynu Huw Vaughan Thomas, mae’r esgidiau sydd gennyf i’w llenwi yn fawr, ond edrychaf ymlaen at adeiladu ar ei waith ardderchog ef.”