Fe fydd Brexit heb gytundeb yn “gyflafan” i’r diwydiant cig coch yng Nghymru, meddai cadeirydd Hybu Cig Cymru, Kevin Roberts.

Daw’r sylw hwn wrth iddo annerch arweinwyr  y diwydiant mewn derbyniad ar Faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 23).

Fe fydd hefyd yn dweud y bydd sefyllfa dim cytundeb yn agor y drws i dollau a fydd yn niweidiol i allforion cig oen Cymru.

“Byddai’n rhoi sioc sydyn, seismig i’r diwydiant cig coch,” meddai.

“Byddai tollau ar unrhyw lefel yn rhwystr i fasnach – a byddai’r senario eithaf, Brexit heb gytundeb, yn gyflafan i’n rhan-ddeiliaid.

“I fod yn hollol ddi-flewyn ar dafod, yn yr achos hynny ni fyddai allforio i Ewrop yn bosib.”

“Diwydiant ffyniannus”

Cyfeiriodd y cadeirydd at ddogfen strategol a gafodd ei lansio gan Hybu Cig Cymru ym mis Mai, gan ddweud bod angen “gwrthsefyll problemau tymor-byr” a sicrhau bod y diwydiant cig coch yn “ffyniannus”.

“Ar adeg o newid ac ansicrwydd, mae’n rhaid i ni warchod ein cynhyrchwyr, eu grymuso i weithio at gynyddu elw ac, wrth wneud hynny, creu diwydiant sy’n barod at heriau’r dyfodol,” meddai.