Fe fydd Geraint Thomas yn y crys melyn unwaith eto heddiw (dydd Sul, Gorffennaf 22) ar gyfer pymthegfed cymal ras feics y Tour de France.

Mae’r cymal hwn yn mynd dros fryniau o Millau i Carcassonne, ac mae’r Cymro’n dechrau edrych yn gyfforddus ar ôl dal ei afael ar y flaenoriaeth ar ôl y pedwerydd cymal ar ddeg i Mende ddydd Sadwrn, er i Omar Fraile ennill y cymal.

Cipiodd y Cymro y crys melyn ar y cymal i La Rosière ddydd Mercher, ond mae’n mynnu o hyd mai Chris Froome yw arweinydd go iawn tîm Sky, er ei fod e ar y blaen iddo o funud a 39 eiliad.

“Alla i ddim siarad ar ran unrhyw un arall, ond dw i’n sicr y bydden nhw’n hapus i’r un o’r ddau ohonon ni ennill.

“Ond i fi, byddwn i’n hapusach taswn i’n ennill na Froomey.”

Pwysau’r crys melyn

Yn ôl Geraint Thomas, mae llai o bwysau arno yn y Tour de France na’r hyn a brofodd e yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012.

“Pan ydych chi’n cymharu hyn gyda chodi ar gyfer ffeinal y tîm cwrso yn y Gemau Olympaidd, pedair blynedd o waith caled a thri chyd-aelod yn dibynnu arnoch chi, ac rydych chi’n ennill o ddegfed rhan o eiliad, dyna i chi bwysau go iawn.

“Mae hwn yn wahanol, mae’n fwy di-ball. Ond dw i’n credu bod cael Froomey yn yr ail safle’n tynnu rhywfaint o’r pwysau oddi arna i hefyd. Os yw rhywbeth yn digwydd, mae’n bosib y bydd e gyda ni yn y ras o hyd.”

Melyn ym Mharis?

Wrth i’r dyddiau fynd heibio, a’r Cymro’n dal i wisgo’r crys melyn, mae’n fwy tebygol mai Geraint Thomas fydd yn gwisgo’r crys melyn wrth i’r ras gyrraedd Paris ar y penwythnos olaf.

“Dyma’r tro cyntaf i fi rasio am dair wythnos fel arweinydd y Dosbarth Cyffredinol felly mae yna rywfaint o ddirgelwch.

“Ond mae hynny’n wir am Froomey a Tom Dumoulin [yn y trydydd safle] hefyd.

“Maen nhw wedi gwneud y Giro [d’Italia] felly does dim dal beth fydd yn digwydd iddyn nhw. Ond ry’n ni mewn sefyllfa wych.”