Mae dyn 35 oed wedi osgoi carchar er iddo ddwyn arian ei daid er mwyn talu am fronnau newydd i’w gariad.

Fe glywodd Llys y Goron Casnewydd fod Luke Quatrini wedi dwyn £1,500 o gronfa angladd ei daid, Clifford Barlett.

Roedd y gŵr 92 oed wedi casglu’r arian er mwyn cyfrannu at gostau ei angladd.

Defnyddiodd  Luke Quatrini gyfran o’r arian er mwyn talu am fronnau newydd i’w gariad, Emma Hodges.

Roedd hefyd wedi archebu tocynnau ar gyfer gwyliau yn Sbaen trwy ddefnyddio cyfrif ei daid, cyn gwario ar ddillad, toiled symudol ac offer adeiladu.

Y ddedfryd

Fe blediodd Luke Quatrini yn ddieuog i’r cyhuddiadau o dwyll, ond cael ei ganfod yn euog.

Fe dderbyniodd ddedfryd o chwe mis yn y carchar sydd wedi’i gohirio am flwyddyn.

Mae hefyd wedi’i orchymyn i dalu £2,000 mewn costau a chyflawni 250 awr o waith cymunedol.