Mae Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wedi beirniadu Leanne Wood.

Mae Jonathan Edwards wedi cyhuddo arweinydd Plaid Cymru o ganolbwyntio ar faterion “niche” ac yn nodi bod Cymru yn erfyn am “arweinyddiaeth go-iawn”.

Hefyd, mae’r Aelod Seneddol Plaid Cymru wedi cyhuddo Leanne Wood o roi diffyg arweiniad i’w phlaid tros Brexit.

“Dyw Leanne heb ddangos arweinyddiaeth ar Brexit ers canlyniad y refferendwm, mae arna i ofn,” meddai Jonathan Edwards wrth y Western Mail.

“Fel Aelodau Seneddol, rydym wedi ein gadael ar ein pennau ein hunain yn San Steffan heb unrhyw gyfeiriadau gan yr arweinydd.”

Cydweithio â’r Torïaid?

Mae Jonathan Edwards o blaid cydweithio gyda Cheidwadwyr sy’n gwrthwynebu Brexit.

Ond mae adroddiadau’n awgrymu bod Leanne Wood yn gwrthwynebu’r posibiliad yn llwyr, a bod y mater yn asgwrn cynnen rhyngddi hi a Jonathan Edwards.