Mae Dŵr Cymru wedi rhybuddio’r cyhoedd rhag gwastraffu dŵr, wrth i ragolygon tywydd addo sychder a thywydd poeth am fis arall.

Mae’r cwmni wedi bod yn gwario £1.5 miliwn yn rhagor bob wythnos ar ddiogelu cyflenwadau  eu cwsmeriaid yng Nghymru.

A bellach mae dŵr wedi’i ryddhau o’u cronfeydd er mwyn cadw lefelau afonydd yn ddigon uchel  – ac yn rhannol er mwyn diogelu bywyd gwyllt.

Glaw

“Mae lefel y dŵr sy’n cael ei ddefnyddio wedi cyrraedd lefelau uchel iawn tros yr wythnosau diwetha’,” meddai Rheolwr Gyfarwyddwr o Dŵr Cymru, Ian Christie.

“Does dim syndod am hyn, o feddwl mai mis Mehefin oedd yr un poethaf erioed, ac oherwydd diffyg glaw ym mis Gorffennaf.”

Cyngor i gwsmeriaid

  • Peidiwch â rhoi dŵr i’ch lawnt – bydd y gwair yn tyfu’n ôl pan ddaw’r glaw
  • Cymerwch gawod, nid bath
  • Peidiwch â gadael y dŵr i redeg wrth frwsio’ch dannedd
  • Gwnewch yn siŵr bod peiriannau golchi (dillad neu lestri) bob tro’n llawn.