Mae’n “bwysig” bod y wasg a’r cyfryngau yn adrodd am y cynnydd mewn troseddau yn Llundain, meddai cynhyrchydd o Gymru sy’n byw yn ddinas.

Mae Lowri Fflur Davies, sy’n ferch fferm o Sir Benfro, wedi byw yn Llundain ers tair blynedd, a thros y cyfnod hwnnw mae wedi gweithio ledled y ddinas yn creu rhaglenni ar gyfer y BBC, ITV a Channel 4.

Er ei bod yn cydnabod bod troseddau fel lladrata a thrywanu yn digwydd ym mhob dinas, dyw hi ddim yn credu bod yr holl sylw sy’n cael ei roi i Lundain yn y wasg yn “annheg”, gan fod angen i bobol wybod beth sy’n digwydd yno, meddai.

“Yn amlwg, mae’n digwydd ym mhob man, ond mae’r ffigyrau’n mynd i fod yn uwch yn Llundain oherwydd y nifer o bobol sy’n byw yma,” meddai wrth golwg360.

“Mae yn digwydd, ac mae’n bwysig bod pobol yn gwybod ambwyti fe.

“Mae’n bwysig eu bod nhw [y wasg] yn dweud wrth bobol beth sydd wedi digwydd ac yn y blaen, fel ein bod ni’n gallu bod yn fwy vigilant wrth fynd rownd pob dydd a gwybod ble mae’r hot-spots ac yn y blaen.

“Mae unrhyw newyddion fel yna yn help i bobol eraill, rili.”

“Cwbwl saff”

Wrth nodi ei bod yn gweithio ym mhob rhan o’r ddinas yn rhinwedd ei gwaith, mae Lowri Fflur Davies yn dweud ei bod yn “ffodus iawn” nad yw hi wedi cael unrhyw brofiadau annifyr ei hun.

Mae’n byw yn ardal Peckham Rye yn ne-ddwyrain Llundain, lle mae’n teimlo’n “gwbwl saff”, meddai wedyn.

“Yn amlwg, mae yna lefydd yn y dwyrain sy’n peri’r mwyaf o drwbwl,” meddai. “Mae hwnna dros yr afon, felly dw i’n byw islaw’r afon.

“Ac yn amlwg, mae rhaid jyst bod yn real sensible rili ambwyti ble’r ydych chi’n mynd a be’ ydych chi’n ei wneud ambell waith. Dw i ddim yn gorfod mynd i’r ardaloedd yna [y tu hwnt i’r afon].

“Lle dw i’n gweithio, dyw’r swyddfeydd ddim yn yr ardaloedd yna, felly dw i’n lwcus.

“Er, ar hyn o bryd, dw i’n gweithio yn y gogledd-ddwyrain lle mae lot o ladrata ffôns wedi bod o fopeds ac yn y blaen.”