Mae cerddor o Gaerdydd sydd ar hyn o bryd yn fyfyrwraig yn Llundain yn dweud ei bod hi wedi cael sawl profiad o ddynion yn ei “bygwth” ar y stryd.

Mae Mabli Tudur yn astudio sioe gerdd yn Academi Mountainview yng ngogledd Llundain, ac ynghyd â gweithio ambell shifft mewn bar, mae’n gigio’n achlysurol yn y ddinas hefyd.

Ond er bod y cerddor 19 oed yn credu bod Llundain yn ddinas “eitha’ saff”, mae’n dweud  bod rhaid iddi fod yn “wyliadwrus” o rai dynion wrth gerdded ar y stryd, yn enwedig yn ystod y nos.

“Fel menyw ifanc o fewn dinas fawr, dw i weithiau yn gorfod cerdded adre ar ben fy hunan o’r gwaith,” meddai wrth golwg360.

“Dw i weithiau’n cael fy mygwth gan un neu ddau ddyn, ond dw i hefyd yn cario larwm rhag ofn bod rhywbeth gwael yn digwydd.

“Ond dw i wastad yn wyliadwrus, fel fi byth, byth yn cerdded o gwmpas llefydd tywyll ar ben fy hunan gyda head-phones i mewn, fel bo fi’n gwybod yn gwmws beth sy’n digwydd o’m cwmpas i.”

“Mae’n 2018”

“Yn anffodus, mae’n digwydd yn fwy aml na dyle fe fod,” meddai Mabli Tudur ymhellach am y profiad.

“Mae fy ffrindie i, sydd hefyd yn ferched hefyd, yn delio efo’r un broblem, sydd yn siom.

“Mae’n 2018, fel fi ddim yn gwybod pam bod rhaid i ddynion siarad i fenywod sy’n ddieithr mewn ffordd mor afiach a ffiaidd, ond mae e dal i ddigwydd.

“Y peth gore i wneud yw naill ai esbonio iddyn nhw beth maen nhw’n gwneud yn rong, neu eu hanwybyddu’n nhw’n llwyr.

“Maen nhw’n dweud pethau afiach fel y ffordd dw i’n edrych, a’r ffaith bod nhw’n hoffi’r ffordd dw i’n edrych, a gofyn os ydw i eisiau dod adre gyda nhw.

You know, dw i ddim yn nabod nhw a bydden i ddim mo’yn gwneud y fath beth.

“Mae dynion Llundain yn rili dda i wneud i fenywod i deimlo’n anghyfforddus a theimlo under pressure, a phan ydw i’n dod yn ôl i Gaerdydd, mae hwnna’n rhywbeth neis i ddianc ohono.”

Wood Green yn “eitha’ scary

Mae Mabli Tudur ar hyn o bryd yn byw yn ardal Wood Green – sydd â’r lefel ucha’ o lofruddiaethau yn Llundain, meddai.

Ac wrth ymdopi â bywyd yn yr ardal honno, mae’n dweud ei bod yn brofiad “eitha’ scary”.

“Mae lot o bobol wedi cael [eu lladd],” meddai. “Dw i’n cofio o’dd bachgen 19 oed wedi cael ei saethu tua dau fis yn ôl tu fas i’r Weatherspoons a’r sinema dw i’n ei ddefnyddio yn wythnosol.

“Dw i’n cofio o’dd stabbing yn ddiweddar hefyd.

“Dydych chi byth yn gwybod pryd mae e’n mynd i ddigwydd, yn enwedig yn Wood Green a Turnpike Lane, sef yr ardaloedd dw i’n byw ynddo, lle mae lot o gangs i gael.

“Felly dyw e ddim necessarily yn mynd i ddigwydd i chi, oni bai eich bod chi’n gofyn am drwbwl, mewn ffordd.”