Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio, wedi i gorff gael ei ddarganfod yn Sir y Fflint.

Cafodd swyddogion eu galw i Stryd Fawr, Bagillt, am 10.30yh ddydd Mercher (Gorffennaf 18), ac yno mi ddaethon nhw o hyd i Andrew Hamilton, 42, yn farw.

Mae’r dyn 43 oed sydd wedi’i arestio bellach yn y ddalfa yn Llanelwy, ac mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud nad ydyn nhw yn chwilio am ragor o bobol mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Bydd presenoldeb heddlu yn uwch yn Bagillt wrth i swyddogion barhau i ymchwilio.