Mae cadeirydd canolfan berfformio fwya’ Ewrop wedi ymddiheuro am anfon “neges Twitter ddi-feddwl” yn gwawdio’r iaith Gymraeg.

Fe bostiodd Dr Giles Robert Evelyn Shilson, cadeirydd Canolfan y Barbican yn Llundain, lun o fwrdd gwybodaeth gorsaf drenau, gydag enwau lleoedd arno yn Gymraeg. Ynghyd â’r llun roedd y neges, “Mae’n rhaid mai profiad tebyg i hyn yw dyslecsia.”

Bu iddo ennyn ymateb chwyrn ar y wefan, gydag Elin Jones, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn galw’r neges yn un “anwybodus”, a Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru, yn galw am ymddiheuriad.

Mae Giles Robert Evelyn Shilson bellach wedi ymddiheuro, gan fynnu nad oedd yn trio sarhau.

“Hoffwn ymddiheuro,” meddai. “Mi anfonais neges Twitter ddi-feddwl dros ben, ac mi wnes i frifo teimladau llawer ohonoch.

“Dw i mor sori – doeddwn i ddim wedi bwriadu sarhau, a dylwn fod sylweddoli bod y neges yn sarhad. Dw i wir yn ymddiheuro.”

https://twitter.com/Giler/status/1019853147832020992