Mae ystafell de newydd Castell Caeriw yn Sir Benfro yn dwyn enw un o gymeriadau hanesyddol mwyaf lliwgar Cymru – ac mae’r datblygiad hefyd wedi creu naw swydd.

‘Ystafell De Nest’ yw’r cyntaf mewn cyfres o welliannau sy’n cael eu gwneud i’r Castell sy’n cael ei reoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae’r ystafell de wedi’i henwi ar ôl y Dywysoges Nest, un o gyn-drigolion enwocaf y castell ac “un o’r merched harddaf i fyw yng Nghymru erioed”, yn ôl yr hanesion amdani.

Yn ogystal â chynnig cynnyrch lleol, bydd yr ystafell de hefyd yn osgoi defnyddio plastig untro lle y bo hynny’n bosib, ac fe fydd yr holl ddeunydd pecynnu, gan gynnwys cwpanau tec-awê, yn bosib eu rhoi ar y domen gompost.

Pwy oedd Nest?

Ganwyd Nest ferch Rhys tua 1085, yr unig ferch gyfreithlon i Rhys ap Tewdwr, brenin olaf teyrnas Deheubarth. Ei mam oedd Gwladys ferch Rhiwallon ap Cynfyn o Bowys. Roedd hi hefyd yn llinach Hywel Dda.

Roedd gan Nest ddau frawd iau – Gruffydd ap Rhys, a Hywel, ynghyd ag un chwaer a nifer o hanner brodyr a chwiorydd. Wedi marwolaeth eu tad yn 1093, fe gafodd Gruffydd ei anfon i Iwerddon er diogelwch, ac fe garcharwyd Hywel ynghyd â’u mam.