Gyda thocynnau ar gyfer teithiau o gwmpas set yr opera sebon, Pobol y Cwm, yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 wedi mynd i gyd mewn ychydig dros wythnos, mae BBC Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn rhyddhau nifer cyfyngedig o docynnau ychwanegol.

Mae’n golygu y bydd rhagor o bobol yn cael mynd ar deithiau o amgylch Cwmderi, y pentref dychmygol sy’n cael ei ffilmio yng nghanolfan BBC Studios Cymru ym Mae Caerdydd.

“Mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel,” meddai Llyr Morus, cynhyrchydd Pobol y Cwm.

“Rydyn ni wedi llwyddo i wasgu cwpwl o deithiau ychwanegol i mewn i’r amserlen lawn, ac r’yn ni’n falch i gynnig hyd yn oed mwy o docynnau i ffans Pobol y Cwm i gamu mewn i Gwmderi yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

“Mae’r teithiau yn rhad ac am ddim,” meddai wedyn, “ac r’yn ni’n disgwyl y bydd y tocynnau ychwanegol yn mynd yn gyflym hefyd.”