Mae Pwyllgor Gwaith, Cyngor Môn, wedi penderfynu cau ysgol gynradd Biwmares a’i huno gyda Llangoed, wrth i’r gwaith o foderneiddio’r gwasanaeth addysg yn y sir fynd rhagddo.

Mewn pleodlais ddoe (dydd Mercher, Gorffennad 18) fe benderfynodd y cynghorwyr hefyd i roi arian i adnewyddu ac ymestyn Ysgol Llandegfan, ychydig filltiroedd o Biwmares.

Daw’r penderfyniad i gau Ysgol Biwmares a’i huno gydag Ysgol Llangoed yn sgil dau ymgynghoriad cyhoeddus.

Bydd Ysgol Llangoed hefyd yn cael ei hadnewyddu, gan ddod â hi a Llandegfan “i safon 21ain ganrif” Llywodraeth Cymru ar gyfer y plant a’r athrawon.

Dim ond 40 o ddisgyblion sydd gan Ysgol Biwmares bellach ac mae 72% o’r llefydd ar gael yn yr ysgol yn wag. Mae costau cynnal a chadw’r ysgol yn £936,000.

Mae gan Ysgol Llangoed 78 o ddisgyblion gydag 20% o’r llefydd ar gael yn yr ysgol yn wag. Mae costau cynnal a chadw’r ysgol honno yn £107,000.