Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi pwy fydd y  tenantiaid cyntaf a fydd yn symud i Ganolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin.

Mae’r adeilad, a fydd yn gartref i bencadlys S4C, bellach yn dri chwarter llawn (74%) meddai’r brifysgol. Y targed gwreiddiol ar yr adeg yma oedd 60%.

Y tenantiaid cyntaf fydd Atebol; Big Learning Company; Captain Jac; Asset Finance Solutions; Gorilla; Highly; Lens 360; Moilin; Optimwm; a Trywydd.

Maen nhw’n gasgliad amrywiol o gwmnïau sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol, gan gynnwys cyhoeddi aml-gyfrwng a thechnoleg ddigidol, addysg ddigidol, cynhyrchu fideo a ffotograffiaeth, ôl-gynhyrchu, dylunio graffeg, cyfieithu ac is-deitlo yn ogystal â rheolaeth ariannol ar gyfer y diwydiannau creadigol.

Gweledigaeth y brifysgol ar gyfer Yr Egin yw datblygu canolfan a fydd yn adlewyrchu arfer gorau masnachol yn y sector creadigol. Mae’r Egin yn un o 11 o brosiectau ar draws de orllewin Cymru sydd i’w hariannu’n rhannol, yn amodol ar gymeradwyaeth achosion busnes, gan y £1.3bn o Fargen Dinas Bae Abertawe.