Mae un o Gymry Llundain sydd wedi byw yn y ddinas ers bron i drigain mlynedd, yn dweud bod nifer y troseddau’n “llawer gwaeth” heddiw nag oedden nhw flynyddoedd yn ôl.

Fe symudodd Llinos Morris, sy’n wreiddiol o Gapel Seion ger Aberystwyth, i Lundain yn 1963, ac mae wedi bod yn dyst i newidiadau mawr ym mhatrwm cymdeithas y ddinas.

Yn ôl ysgrifenyddes Capel Jewin ac aelod o Gymdeithas Ceredigion Llundain, does dim modd ymddiried cymaint mewn pobol y dyddiau hyn.

“Blynydde’n ôl, roeddech chi’n gallu mynd allan o’r tŷ a hyd yn oed ei adael e heb ei gloi, ac roeddech chi’n gobeithio y bydde fe’n saff pan ddelech chi yn ôl,” meddai wrth golwg360.

“Ond nawr rydych chi’n gwneud yn siŵr eich bod chi’n cloi popeth, cyn mynd allan.

“Roedden ni’n fwy rhydd yr adeg hynny nag ydym ni nawr. Rydym ni’n fwy saftey concious, fedrwch chi ddweud, nawr.”

“Digwydd ym mhob man”

Er bod Llinos Morris yn dweud bod ardal Barnet, lle mae hi’n byw, yn ardal sydd “ddim yn ddrwg” o ran troseddau, mae wedi cael profiad o ladron yn dod i’w thŷ, a hynny tua 30 mlynedd yn ôl.

“Roeddwn i ddim i mewn – doedd neb i mewn,” meddai. “Y ferch ddo’th adre’ yn gynta’, a hi ffeindiodd e. Roedden nhw wedi bod i mewn a dwyn lot o bethe.”

Ond mae’n ychwanegu bod troseddau o’r fath yn digwydd “ymhob tre fawr arall”, a’i fod yn rhan o fywyd mae’n rhaid ei derbyn.

“Mae hynna’n digwydd ymhob man. Rydych chi’n cael lladron yn torri i mewn i dai ym mhob lle go fawr, a hyd yn oed mewn lle llai fe, gwedwch, yng nghanol Cymru.”