Mae grŵp o bobol leol ym Môn eisiau troi tŵr 89 troedfedd er cof am ŵr bonheddig yn atyniad twristaidd go iawn.

Ers 2012, mae Tŵr Marcwis yn Llanfair Pwllgwyngyll (adeilad rhestredig Gradd II a godwyd yn wreiddiol i fawrygu Henry William Paget, Ardalydd cyntaf Môn) wedi bod ar gau oherwydd problemau yn ymwneud â iechyd a diogelwch.

Fe godwyd y tŵr yn 1817 i gofnodi rhan Henry Paget ym muddugoliaeth brwydr Waterloo yn 1815.

Ond heno, fe fydd Ymddiriedolaeth Tŵr y Marcwis yn ne-orllewin Mon yn cynnal cyfarfod cyhoeddus, ac yn cyflwyno eu bwriad i:

  • troi’r safle cyfan yn atyniad, ac yn lle i helpu pobol ddeall arwyddocâd hanesyddol;
  • ail-gynllunio’r coetir oddi tan y golofn;
  • adnewyddu bwthyn rhestredig Gradd II* a datblygu’r hen faes parcio sy’n rhan o safle’r tŵr;
  • gwneud y safle yn hygyrch i bobol anabl, yr henoed ac i rieni â phramiau;
  • gosod llwybrau igam-ogam, lifftiau a ‘phlatfform’ i allu gwneud y mwyaf o’r golygfeydd.

Arian?

Hyd yma mae’r grŵp wedi llwyddo i ddenu rhai grantiau, yn gynnwys £10,000 o Ymddiriedolaeth Elusennol Môn, a £5,000 o’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol.

Mae’r grŵp hefyd wedi apwyntio ymgynghorwyr sy’n arbenigo mewn prosiectau treftadaeth i’w helpu i baratoi cais am gyllid Cronfa Dreftadaeth y Loteri.