Mae yna ofnau yng Nghaernarfon y gall cynlluniau Llywodraeth Cymru i symud 80 o weithwyr o un bloc o swyddfeydd i ardal brysur arall yn nhref Caernarfon, yn achosi problemau parcio mewn tref sy’n llawn yn barod.

Ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud wrth golwg360 nad ydyn nhw’n disgwyl “anhawster” o ran parcio wrth symud eu gweithwyr o Ogledd Penrallt i Ddoc Fictoria.

Ar hyn o bryd mae staff y Llywodraeth yn medru defnyddio maes parcio aml-lawr pwrpasol ar eu cyfer, a hynny ar y cyd â staff Cyngor Gwynedd yn y dref.

Ond ddiwedd y mis hwn, fe fydd eu swyddogion yn symud i swyddfa yn Doc Fictoria – lle mae swyddfa gan S4C eisoes, lle mae canolfan gelfyddydau Galeri, meddygfa, bwyty a gwestai Travelodge a Premier Inn – a’r pryder yn lleol yw y bydd hyn yn golygu rhagor o geir, ac felly rhagor o dafferthion parcio.

“Bydd staff Llywodraeth Cymru, sydd wedi’u lleoli yng Ngogledd Penrallt Caernarfon, yn symud i swyddfeydd newydd yn y dre yn Noc Fictoria erbyn diwedd Gorffennaf,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth golwg360.

“Does dim disgwyl i’r cam yma achosi anhawster o ran parcio ceir.”

Symud

Nid Llywodraeth Cymru yn unig fydd yn adleoli’u staff yn y dre dros yr wythnosau nesa’.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y bydd 70 o aelodau staff yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) a’r Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) yn symud o’u safle presennol yng Nghaernarfon.

Fe fyddan nhw’n symud i safle Penrallt, sy’n eiddo i Gyngor Gwynedd, a bydd eu hen swyddfeydd yn cael eu rhoi ar y farchnad.