Mae gan y gymuned rôl bwysig iawn wrth fynd ati i ddatrys y cynnydd mewn troseddau yn Llundain, meddai gweinidog ar gapeli Cymraeg yn y ddinas.

Mae’r Parchedig Richard Brunt, sydd wedi dysgu Cymraeg ac yn weinidog ar chwe chapel Cymraeg yn Llundain, yn dweud bod lefel y troseddau treisgar yn Llundain yn tueddu i fod yn gymysg oll i gyd, ac ar wasgar ym mhob ardal.

Ond mae o’r farn bod yr amrywiaeth hwnnw yn ddibynnol ar y cymunedau, a pha mor gadarn yw’r “cydweithio” o’u mewn.

“Dw i ddim yn siŵr am yr ystadegau, ond i mi mae’n ymddangos bod yn Llundain ardal eitha’ diogel, a dim yn rhy bell wedyn mae ardal sydd ddim yn ddiogel iawn,” meddai’r gweinidog gyda’r Eglwys Bresbyteraidd wrth golwg360.

“Dw i’n credu bod cymuned yn bwysig iawn, a lle mae’r heddlu a phobol yn y gymuned ac ysgolion yn gweithio gyda’i gilydd, mae’n tueddu i fod yn well.”

Digartrefedd

Er mwyn mynd i’r afael â broblem, mae Richard Brunt yn dweud bod angen ystyried y ffactorau hynny sy’n achosi pobol i droseddu.

“Mae pobol ddigartref yn broblem yn Llundain hefyd, ac weithiau mae hwn yn cael ei gysylltu â phroblemau cymdeithas fel cyffuriau ac alcohol hefyd,” meddai.

“Mae hwn yn tueddu i yrru trosedd ambell waith; mae’n rheswm i gael arian i brynu cyffuriau neu alcohol.

“Mae llawer o’r eglwysi yn trio gwneud gwaith gyda’r digartref o fewn y ddinas, ac mae rhai o’n haelodau ni yn gwneud y gwaith hwn trwy roi bwyd iddynt a phethau fel’na.

“Mae rhai ohonom yn gweithio fel street pastor, sef mynd allan gyda’r nos a thrio bod ar gael i bobol, yn enwedig pobol ifanc.”

“Rhoi ail gyfle”

I’r rheiny sydd wedi troseddu wedyn, ac yn treulio cyfnod yn y carchar am hynny, mae Richard Brunt yn dweud ei bod yn bwysig rhoi “ail gyfle” iddyn nhw.

Mae’n ychwanegu iddo fynd ag aelodau o Gapel Sutton ar ymweliad i’r carchar lleol yn ddiweddar, lle y gwnaethom nhw weld carcharorion yn gweithio mewn caffi.

“Mae carcharorion yn gweithio yn y caffi yna, a dw i’n credu mae’n ffordd da i’w cefnogi nhw, oherwydd mae’n rhoi ail gyfle iddyn nhw, yn enwedig pan fyddan nhw’n dod allan o’r carchar,” meddai.

“Maent yn gweithio gyda swyddogion yn y carchar i ddysgu sgiliau newydd, a phan maen nhw’n mynd allan, mae’n gymorth iddyn nhw i setlo lawr mewn swydd a chael cefnogaeth i ddechrau.

“Dw i’n credu bod hyn yn bwysig, oherwydd mae’n hawdd colli gobaith.

“Roeddwn i wedi clywed tystiolaeth rhai o’r carcharorion yna, ac roedden nhw’n gwerthfawrogi’n fawr o gael yr ail gyfle.”