Mae cwmni cludiant o’r gorllewin wedi cadarnhau eu bod wedi prynu cwmni mawr arall.

Fe ddaeth y cadatnhad fod Grŵp Owens bellach yn berchen ar BTS Haulage Limited.

Mae Owens, sydd a’i bencadlys yn Llanelli, yn darparu gwasanaethau cludiant, storio a dosbarthu ledled gwledydd Prydain. Mae’r cwmni wedi llwyddo i dyfu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Sefydlwyd BTS yn 1957 yn Carrington, Manceinion ac mae’n cludo nwyddau yn bennaf i ac o ardal gogledd Lloegr. Fe fydd y busnes yn cadw ei frand a’i hunaniaeth o fewn grŵp Owens.

Yn dilyn prynu BTS, bydd gan Owens dros 550 o gerbydau, a throsiant blynyddol o tua £90m.