Mae Bethan Hughes, 34, wedi byw yn Llundain ers iddi symud yno o Gaerffili i astudio yn y brifysgol.

Er bod y gweithiwr HR mewn cronfa gwrych [hedge fund] yn y broses o symud yn ôl i Gymru i gael mwy o gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, mae hi’n dweud ei bod yn “caru” Llundain ac yn teimlo’n ddiogel yno.

“Dw i ddim yn meddwl am y perygl. Dw i ddim yn gwybod os yw hynny’n iawn neu ddim ond dw i’n mynd ymlaen yn gwneud day to day business a dw i ddim yn meddwl amdano fe,” meddai.

“Dw i’n byw mewn ardal neis yn Llundain, dw i’n byw yn Victoria, dw i’n gweithio yn y West End, so dw i jyst ddim yn meddwl amdano fe.

“Lle dw i’n gweld pethau yn y newyddion, mae e’n fwy o gangs, dyw e jyst ddim yn feature yn fy mywyd i day to day.”

Giang “wedi bwrw fi i’r llawr”

Cafodd Bethan Hughes brofiad amhleserus pan oedd hi’n fyfyrwraig pan wnaeth giang o bobol ei bwrw i’r llawr… ond dywed y gallai hynny fod wedi digwydd yn unrhyw le arall.

“Blynyddoedd yn ôl, pan oeddwn i’n stiwdant, o’n i’n cerdded adref o’r gym ac roedd rhywun wedi bwrw fi i’r llawr ond mae hwnna’n gallu digwydd unrhyw le.

“O’n i’n ypset ar y pryd ond doeddwn i ddim wedi gwneud dim byd gwahanol ar ôl, ro’n i jyst yn anlwcus. Mae hwnna’n gallu digwydd yng Nghaerdydd neu yn lle bynnag chi’n byw.

“Doedden nhw ddim wedi cymryd unrhyw beth, efallai bod hwnna’n fwy shocking, doeddwn i ddim wedi gweld nhw, roedden nhw wedi cicio fi o’r tu ôl ac fe wnes i gwympo ar y llawr. Roeddwn i gyda ffrind so fi’n credu roedden nhw jyst yn chwarae o gwmpas.

“Mae pobol o gwmpas trwy’r amser yn Llundain ac mae hwnna’n gwneud i fi deimlo’n fwy diogel, ddim yn fwy peryglus.

“Byddai’n poeni mwy yn cerdded adref yng Nghaerffili lle bydd neb ar y stryd ar ôl midnight ac yn Llundain pan dw i’n cerdded adref ac mae night buses a lot o bobol ar y stryd trwy’r amser.”