Mae Marged Siôn, sydd o Gaerdydd yn wreiddiol ond wedi byw yn Llundain ers saith mlynedd, yn disgrifio ei phrofiad o weld dau berson yn cael eu trywanu ar strydoedd y ddinas.

Erbyn hyn, mae’r artist yn byw yn ardal Lewisham, yn un o ardaloedd mwya’ difreintiedig y ddinas, yn y de-ddwyrain.

Dywed bod y broblem i wneud gyda thoriadau i’r heddlu ond hefyd “hiliaeth systematig” sy’n golygu bod pobol sydd ddim yn groen-wyn yn cael eu trin yn annheg gan yr awdurdodau.

“Fi’n byw yn y south-east yn Lewisham ac fe wnes i weld stabbing mis yn ôl yn Camberwell. Fi wedi gweld dau [achos o drywanu] – un yn Peckham ac un yn Camberwell,” meddai.

“Plant yw e hefyd, sy’n rili trist. Mae cymaint ohono fe yn digwydd mewn ysgolion ac o fewn cymunedau lleol yn lle fi’n byw.”

“Tynnu cyllell o’i drowsus”

It’s not nice,” meddai Marged Sion wedyn. “Yn un ohonyn nhw, wnes i ddim gweld yr actual stabbing ond fe wnes i weld bachgen ar y llawr a gwaed ymhob man a’r heddlu ac ambiwlansys.

“Ac wedyn yn y llall, roeddwn i reit o flaen y digwyddiad lle roedd yna gant o bobol yn rhedeg lawr o gwmpas Camberwell, roedd literally pawb mas o’r siopau a phopeth yn rhedeg ar ôl y ddau fachgen yma.

“Roedd fi a ‘nghariad i yn eistedd yn y bus stop ac roedd boi wedi mynd o gwmpas fan, wedi cymryd cyllell allan o’i drowsus ac wedi mynd nôl rownd y fan a jyst mynd ‘mlaen a stabbo. Roedden nhw’n tua 16 [oed].”

“Fi’n dwlu ar fyw yn Llundain a fi’n dwlu ar bobol Llundain a chymuned leol Llundain. Fi eisiau bod yn ofalus i beidio gwneud iddo fe swnio bod e’n lot gwaeth na beth yw e.

Obviously mae e’n wael ond sai isie bod ‘mae Llundain yn horrible… achos mae yna fwy o bobol dda yn Llundain nag sydd o bobol ddrwg.

“O be’ fi’n deall, mae e i gyd i wneud gyda bod yn yr ysgol, mae plant yn siarad a they big themselves up… yn enwedig pan ti’n fachgen yn troi’n ddyn, you’ve got your pride a peer pressure.

“Pan mae peer pressure yn mynd lan i’r extremities yna, ti’n mynd i fod ofn peidio gwneud e.

“Mae angen mwy o arian ar yr heddlu ac mae angen stopio penaliso pobol ddu. Mae dynion croenddu lot yn fwy likely i gael eu stopio, stop and search, nag unrhyw un gwyn, sy’n systemic racism.”