Mae cwest wedi dod i’r casgliad fod dau filwr wedi marw yng Nghastellmartin yn Sir Benfro o ganlyniad i nam cynllunio ar faril gwn eu cerbyd.

Fe gafodd Matthew Hatfield a Darren Neilson o’r Catrawd Tanciau Brenhinol eu lladd pan ffrwydrodd eu cerbyd cyn mynd ar dân fis Mehefin y llynedd.

Clywodd y cwest i’w marwolaeth, a gynhaliwyd yn Solihul, iddyn nhw farw o ganlyniad i’w hanafiadau ar Fehefin 14, 2017.

Dywedodd y crwner mai “prif achos” eu marwolaeth oedd fod modd tanio’r dryll heb fod cydran hollbwysig sy’n atal nwyon poeth rhag dianc, yn bresennol yn yr arf.