Mae Cynog Dafis wedi datgan ei fod am weld Adam Price yn dod yn arweinydd nesaf Plaid Cymru.

Mewn erthygl sydd wedi’i chyhoeddi heddiw ar wefan www.nation.cymru mae cyn-Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad Ceredigion yn nodi bod y blaid “yn y doldryms”, a bod angen cywiro hynny.

Wrrth dynnu sylw at drafferthion pleidiau eraill, mae’n nodi mai dim ond “cynnydd pitw ar y gorau” sydd i’w weld yng nghefnogaeth Plaid Cymru yn y polau.

Mae’n galw am “newid radical”, ac yn bwrw ati i ddadlau mai Adam Price, Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, yw’r ffigwr gorau i lywio’r blaid tuag at y newid hwnnw.

Cystadlu

Bellach mae Rhun ap Iorwerth, Aelod Cynulliad Ynys Môn, ac Adam Price wedi cyhoeddi y byddan nhw’n herio Leanne Wood, arweinydd y blaid, am y rôl.

Mae disgwyl y bydd pleidlais wedi’i chynnal, ac arweinydd wedi’i benodi, erbyn dechrau’r hydref.