Mae papur bro newydd wedi’i sefydlu yn ardal Dolgellau, wedi i bapur newydd misol y dref, Y Dydd, ddod i ben y llynedd.

Mae rhifyn blasu, yn rhad ac am ddim, o Llygad y Dydd, ar gael mewn siopau a garejys lleol yn ystod y mis hwn, cyn y bydd y rhifyn llawn cyntaf yn dod o’r wasg tua diwedd mis Medi.

Yn ei golofn olygyddol yn y rhifyn pedair tudalen cyntaf y mis hwn, mae Arfon Hughes, cadeirydd y fenter, yn egluro pam ei fod yn awyddus i weld traddodiad y papur a arferai gael ei gyhoeddi gan gwmni Tindle Newspapers, perchnogion Y Cymro, yn parhau.

“Os nad ydi Tindle am barhau i’w gynhyrchu,” meddai, “tybed a oes dyfodol iddo fel papur bro? Yn dilyn cyhoeddiad Tindle i waredu’r papur, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus a gytunodd i edrych ar y posibilrwydd o’i brynu am £1 ac i ffurdio cymdeithas i gynhyrchu papur yn yr ardal eto.

“Ein gweledigaeth ni fel gwirfoddolwyr oedd hybu bwrlwm cymdeithasol Cymraeg yr ardal drwy adrodd ar newyddion lleol, cyhoeddi dyddiadur o ddigwyddiadau, erthyglau a cholofnau fyddai’n ddiddorol i ystod o oedrannau, chwaeeth, cefndir a gallu yn yr iaith,” meddai Arfon Hughes wedyn.

“Byddai’r papur yn sianel i gysylltu pobol a chymunedau’r ardal, ac yn sbardun i gynnal mwy o ddigwyddiadau a hyrwyddo balchder yn ein diwylliant.”

Mwyafrif o blaid papur bro 

Cyn y Nadolig, meddai Arfon Hughes, fe gynhaliwyd arolwg ar-lein ac ar bapur, mewn ffeiriau Nadolig yn ardal Dolgellau ac yn ystod cyfnodau siopa hwyr, i ofyn barn pobol leol.

Yn ol Arfon Hughes, fe gafwyd 85 o ymatebion llawn, ac o blith y rheiny, dim ond un oedd yn gwrthwynebu sefydlu papur bro Llygad y Dydd.

“Roedd nifer fawr o awgrymiadau am y math o gynnwys,” meddai, “ac mae’r rhifyn arbrofol yn ceisio adlewyrchu ychydig o hwnnw – papur i ateb anghenion darllenwyr y cylch.”

Mae’r rhifyn enghreifftiol yn rhestru’r bobol fydd yn cyfrannau colofnau bob mis – Rhys Gwynn, warden ardal De Meirionnydd i Barc Cenedlaethol Eryri; yr awdures, Bethan Gwanas; ac fe fydd Derec Jones yn cyfrannu colofn chwaraeon i lenwi’r dudalen gefn.

‘Tro pedol’ Tindle  

Mae’r cwmni wedi gorfod addasu’r enw gwreiddiol o Y Dydd i Llygad y Dydd, oherwydd i’r trafodaethau gyda chwmni Tindle Newspapers fynd i’r gwellt ychydig cyn diwedd 2017.

“Ar ol i Tindle ddatgan eu god awydd gwerthu’r enw Y Dydd, cafwyd tro pedol cyn y Nadolig ac felly enw’r papur bro hwn ydi Llygad y Dydd,” meddai Arfon Hughes.