Mae Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn wedi penderfynu cefnogi cynlluniau i gau Ysgol Talwrn, gan symud y disgyblion i Ysgol y Graig yn Llangefni.

Ar hyn o bryd, mae gan Ysgol Talwrn 43 o ddisgyblion, ond mae yna bryderon y bydd y rhif hwn yn gostwng yn y dyfodol.

Mae aelodau o’r Pwyllgor Gwaith wedi cytuno i gynyddu maint Ysgol y Graig fel bod modd derbyn disgyblion o’r Talwrn.

Bydd bloc newydd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen – blynyddoedd Meithrin, Derbyn, 1 a 2 – yn cael ei adeiladu ar gampws yr ysgol i gyflawni hyn.

Mae’r cyngor yn nodi mai’r gost fesul disgybl yn Ysgol Talwrn yw £4,447, tra bo Ysgol y Graig yn £3,395.

“Calon drom”

 “Cafodd y penderfyniad i gau Ysgol Talwrn ei wneud gyda chalon drom, ond mae gennym ddyletswydd i weithredu er lles gorau’r Ynys gyfan, meddai’r Cynghorydd Meirion Jones, sy’n gyfrifol am bortffolio Addysg ar y Pwyllgor Gwaith.

“Trwy ein rhaglen foderneiddio ysgolion, rydym yn darparu addysg o’r safonau uchaf ar gyfer plant ar draws y sir i gyd.

“Er mwyn gwneud hyn, bydd rhaid i ni wneud y defnydd gorau posib o’r arian a ddaw gan Lywodraeth Cymru rŵan.”

“Siomi”

Mewn ymateb i’r cyhoeddiad, mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud eu bod wedi’u “siomi” gan y cynnig, ac maen nhw’n galw am her gyfreithiol.

“Rydym wedi ein siom, ond heb ein synnu, gan ymdrechion swyddogion y Cyngor i geisio gwthio trwyddo gynnig arall i gau ysgol,” meddai Ffred Ffransis ar ran grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith.

“Maen nhw’n gwrthod dilyn y prosesau statudol yn y cod cenedlaethol ac felly gobeithio y gwelwn ni her gyfreithiol yn y gymuned.”