Mae tri aelod newydd wedi’u penodi i Fwrdd Awdurdod S4C, sef y corff sy’n goruchwylio gwaith y sianel.

Y tri aelod newydd yw Owen Derbyshire, Anita George a Rhodri Williams, ac fe fyddan nhw’n ymuno â’r bwrdd sydd eisoes yn cynnwys chwe aelod arall.

Mae’r aelodau wedi’u penodi am gyfnod o bedair blynedd, ac fe fyddan nhw’n derbyn tal o £9,650 y flwyddyn am eu gwaith.

Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Matt Hancock, sy’n gyfrifol am eu penodi.

Y tri aelod

Mae Rhodri Williams yn gyn-Gyfarwyddwr Cymru Ofcom, swydd yr oedd wedi’i dal er 2004.

Mae Anita George yn gyfreithwraig sy’n un o sefydlwyr y cwmni ymgynghori annibynnol, Partneriaeth Hillcrest, sy’n darparu gwasanaethau llywodraethu corfforaethol i’r sector gwasanaethau ariannol a busnesau teuluol.

Mae Owen Derbyshire wedyn yn sylfaenydd ac yn Brif Weithredwr y cwmni technoleg, Properr Software, ac yn Brif Ymgynghorydd gyda Twenty One Group.

“Arweinwyr yn eu meysydd”

“Bydd dod ag Anita, Owen a Rhodri i’r Bwrdd yn cryfhau gallu S4C i fanteisio ar y cyfleoedd newydd sydd o’n blaenau,” meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns.

“Maen nhw’n arweinwyr yn eu meysydd a bydd eu harbenigedd, eu profiad a’u safbwyntiau ffres yn cryfhau’r Bwrdd ymhellach ar y cam pwysig a chyffrous hwn yn hanes y sianel.”