Mae teyrngedau wedi’u rhoi i ddyn “anhygoel” a fu farw mewn gwrthdrawiad dros y penwythnos.

Bu farw Bradley Lukins, 21, o’i anafiadau yn dilyn y gwrthdrawiad ar Heol Blaenafon, Brynmawr; am tua 3.05am ddydd Sadwrn ( Gorffennaf 14).

Dim ond un cerbyd oedd ynghlwm â’r gwrthdrawiad, a chafodd dau ddyn 21 oed o Blaenau eu harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.

Bellach mae un dyn wedi cael ei ryddhau tra bod yr ymchwiliad yn parhau, ac mae’r dyn arall wedi cael ei ryddhau heb unrhyw weithredu pellach.

Teyrnged

“Hoffem ddiolch i bawb am eu cydymdeimlad caredig ac i bawb sydd wedi anfon cardiau a blodau,” meddai teulu Bradley Lukins.

“Roedd Bradley’n fachgen anhygoel ac yn gwneud pawb a oedd yn ei adnabod yn llawen. Mae’r teulu yn amlwg wedi’u llethu a hoffent amser i alaru yn awr.”

Mae Heddlu Gwent yn parhau i ymchwilio i’r digwyddiad, a dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw trwy ffonio 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 111.