Rhaid sicrhau bod ysmygwyr yng Nghymru yn medru cael gafael ar ddeunydd stopio smygu – gan gynnwys gwm cnoi, chwistrellwyr a patsiau nicotin.
Dyna yw galwad Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, sy’n pryderu bod ysmygwyr yn cael trafferth cael gafael ar y deunydd yma.
Mae adroddiad newydd gan yr elusen yn dangos bod nifer y deunydd stopio smygu sy’n cael ei ddarparu ledled y Deyrnas Unedig wedi disgyn 75%.
A’u pryder yw bod byrddau iechyd yn ymwrthod rhag eu darparu er mwyn arbed arian.
Trwy wneud hynny, meddai’r elusen, mae’r byrddau’n tanseilio ymdrechion ysmygwyr i roi’r gorau i’r arfer.
“Baich trymach”
“Mae pobol sy’n ysmygu yn debygol o fod yn bobol sy’n defnyddio gwasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn aml,” meddai Pennaeth Sefydliad Prydeinig y Galon (yng Nghymru), Joseph Carter.
“Bydd darparu llai o ddeunydd stopio smygu ond yn arbed arian yn y tymor byr. Yn y tymor hir, bydd yn troi’n faich trymach ar y GIG, gan roi rhagor o bwysau ar unedau brys.”
Canfyddiadau’r adroddiad
- Mae presgripsiynau am ddeunydd stopio smygu wedi bod yn disgyn ers 2007
- Mae ‘na ddiffyg cysondeb yn safon y data ynghylch y mater
- Cafodd 60% yn llai o ddeunydd stopio smygu ei ddarparu gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf rhwng 2012-13 a 2015-16