Mae wedi dod i’r amlwg na fydd cartref ‘porth gofod’ cyntaf y Deyrnas Unedig yn cael ei sefydlu yng Nghymru.

Bellach mae Asiantaeth Ofod y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi mai safle ar arfordir gogleddol yr Alban – ar benrhyn A’Mhoine yn Sutherland – fydd yn cipio’r teitl hwnnw.

Bydd Menter yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd (HIE) yn derbyn £2.5m yn sgil y dyfarniad, ac mae disgwyl bydd eu ‘porth gofod’ yn agor ar ddechrau’r 2020au.

Roedd safle Llanbedr ger Harlech, ymhlith y meysydd a oedd yn cystadlu am y buddsoddiad hwnnw – buddsoddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Er bu cais ‘Canolfan Awyrofod Eryri’ yn aflwyddiannus, bydd modd iddyn nhw geisio am arian o gronfa newydd £2m, a fydd yn eu galluogi i lansio ‘hediadau llorweddol’.