Mae dyn wedi marw ar ôl cael ei dynnu o’r môr yn ardal y Mwmbwls yn Abertawe nos Sadwrn.

Mae teulu Andrew Gibson o’r ddinas wedi cadarnhau iddo farw, ac wedi talu teyrnged iddo.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 9.15yh yn dilyn adroddiadau ei fod e wedi mynd i drafferthion wrth nofio ger y pier.

Roedd bad achub a hofrenyddion yn rhan o’r ymdrechion i’w achub.

Fe gafodd ei dynnu o’r môr yn ardal y marina, a’i gludo i Ysbyty Treforys, lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.