Mae arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Grenville Ham wedi mynegi ei “siom” ar ôl i aelodau’r blaid bleidleisio o blaid aros yn un blaid Brydeinig.

Dim ond 35.2% o aelodau oedd o blaid sefydlu plaid Gymreig mewn refferendwm, a 64.8% yn erbyn.

Mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon eu Plaid Werdd eu hunain ers 1990.

Yn dilyn y canlyniad, dywedodd arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Grenville Ham ar Twitter, “Siomedig, ond byddaf bob amser yn parchu ymarferion democrataidd ar lawr gwlad fel hyn.

“Yr aelodau sy’n ein harwain ni a fyddwn i ddim am iddo fod fel arall.

“Ond mae’n teimlo’r un fath â phan dw i’n colli etholiad.”

Ychwanegodd y byddai’n “ail-ffocysu ac yn dechrau o’r dechrau” am “na chafodd Rhufain ei hadeiladu mewn diwrnod”.