Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi creu triniaeth newydd, arloesol ar gyfer clefyd y siwgr.
Yn ôl yr arbenigwyr, fe allai’r clytiau clyfar sy’n cynnwys nodwyddau inswlin llai nag arfer weddnewid y driniaeth i’r rhai sy’n dioddef o’r cyflwr.
Byddai’r nodwyddau newydd 0.7mm yn torri arwyneb y croen yn hytrach na’r nodwyddau sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd sy’n mynd yn ddyfnach.
Byddai’r clytiau hefyd yn monitro lefelau inswlin y corff.
Yn ôl y gwyddonwyr, y nod yn y pen draw fydd cyfuno’r clytiau clyfar â’r brechiad traddodiadol, a’r gobaith yw creu’r nodwyddau newydd dros y ddwy flynedd nesaf.
Cwmni SPTS Technologies o Gasnewydd sy’n cynhyrchu’r nodwyddau newydd.
Clefyd y siwgr
Mae 3.7 miliwn o bobol yng ngwledydd Prydain yn dioddef o glefyd y siwgr.
Pobol sy’n dioddef o Fath 1 sy’n gorfod cael inswlin er mwyn rheolau lefelau siwgr y gwaed.
Mae’r dull newydd wedi’i groesawu gan elusen Diabetes UK.