Bydd Gŵyl Parti Ponty yn gyfle i Gymry Cymraeg yr ardal “agor drysau” i’r di-Gymraeg.

Dyna yw barn y Prif Weithredwr, Einir Siôn, o Fenter Iaith Rhondda Cynon Taf – sef y corff sy’n gyfrifol am drefnu’r digwyddiad eleni.

Mae Einir Siôn yn teimlo bod “diffyg hyder” a “diffyg cyfle” wedi rhwystro llawer yn yr ardal rhag siarad yr iaith.

Ac mae’n gobeithio bydd yr ŵyl – a fydd yn cael ei gynnal heddiw (Gorffennaf 14) – yn mynd i’r afael â’r diffyg hwnnw.

“Yn gyffredinol, mae’r agwedd yn gadarnhaol tuag at yr iaith,” meddai wrth golwg360.

“Yr hyn sydd ddim yn bodoli yw’n parodrwydd ni falle … i agor ein drysau ni. Rydym wedi carfanu yn fwy falle nag mewn ardaloedd eraill, er mwyn gallu parhau i ddefnyddio’r Gymraeg.

“Ond mae’r amser wedi dod nawr i ni gamu allan o’r cilfachau ac mewn i ganol ein cymunedau a chroesawu pobol at y Gymraeg. Achos maen nhw yn barod i ddod.”

Y parti

Bydd digwyddiad eleni yn cael ei gynnal yng nghanol y dre, a hynny am y tro cyntaf – cafodd yr ŵyl ei gynnal ym Mharc Ynys Angharad yn y gorffennol.

Fe aeth 10,000 yno llynedd ac mae Einir Siôn yn rhagweld y bydd 15,000 yn mynd eleni.

Bydd dau lwyfan yno lle fydd sawl band ac artist yn perfformio, ac mi fydd gweithgareddau yn cael eu cynnal yn y clwb rygbi.

Hefyd bydd ‘na gwtsh teulu a fydd yn cynnal gweithdai ar gyfer plant a theuluoedd.

Cafodd y Parti Ponti cyntaf ei gynnal yn 1993, a chafodd ei gynnal bob blwyddyn tan 2007. Yna, mi gafodd ei atgyfodi rhyw bedair blynedd yn ôl.