Mae un o swyddogion heddlu Dyfed-Powys wedi’i gael yn euog o ymosod gan achosi niwed corfforol.

Cafodd James Morgans ei farnu’n euog gerbron Llys y Goron Abertawe, ac mi fydd yn derbyn ei ddedfryd ar Awst 3.

Daw’r broses hwn yn sgil ymchwiliad gan Adran Safonau Proffesiynol y llu.

“Mae Heddlu Dyfed-Powys yn disgwyl ymddygiad o’r safon uchaf o’u swyddogion a’u staff,” meddai’r Dirprwy Prif Gwnstabl, Darren Davies.

“A bydd y llu yn mynd ati yn awr i ystyried pa gamau eraill y dylid eu cymryd trwy eu prosesau camymddwyn mewnol.”