Mae un arall o Aelodau Seneddol Ceidwadol Cymru wedi cefnogi Paul Davies yn y ras am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr Cymreig.

David Davies yw’r ail Aelod Seneddol i roi ei gefnogaeth i ymgyrch yr Aelod Cynulliad dros Breseli Penfro, ar ôl i’r AS Stephen Crabb, sy’n cynrychioli’r un etholaeth â Paul Davies, wneud yr un peth.

Mae hyn yn golygu bod gan Paul Davies bellach gefnogaeth Ceidwadwyr a oedd o blaid ac yn erbyn Brexit.

“Dyn o gywirdeb”

 “Dydw i ddim yn oedi rhag cefnogi ymgyrch arweinyddol Paul [Davies],” meddai David Davies sy’n Aelod Seneddol dros Sir Fynwy.

“Mae’n ddyn o gywirdeb ac mae ganddo’r profiad o symud pethau yn eu blaenau a tharo Llafur yn y fan lle mae’n gwneud dolur!

“Gyda Paul yn arweinydd, does gen i ddim amheuaeth y bydd yn dod â rheolaeth Llafur ar Gymru i ben unwaith ac am byth.”

Yr her

 Mae Paul Davies ar hyn o bryd yn arweinydd dros dro ar y Ceidwadwyr Cymreig, ar ôl i Andrew RT Davies ymddiswyddo ddiwedd y mis diwetha’.

Mae Suzy Davies, yr Aelod Cynulliad dros Dde Orllewin Cymru, hefyd yn ymgeisio am yr arweinyddiaeth.

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw Gorffennaf 16, ac mae disgwyl i’r canlyniad gael ei gyhoeddi ar Fedi 6.