Mae Llywodraeth Cymru wedi llacio mwy fyth ar reolau’r cynllun amgylcheddol, Glastir.

Daw hyn wrth i nifer o ffermwyr a pherchnogion tir gael eu heffeithio gan y cyfnod hir o dywydd sych, yn enwedig yr amaethwyr sy’n ddibynnol ar dyfu cnydau.

Yr wythnos ddiwetha’, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod hawl gan ffermwyr i dorri eu gweirgloddiau yn gynnar, a hynny cyn Gorffennaf 15.

Erbyn hyn, maen nhw wedi penderfynu llacio rhagor o reolau, gan gynnwys yr hawl:

 

  • i beidio â sefydlu gwreiddgnydau (root crops) tan Awst 15;
  • i beidio â bod yn rhan o’r cynllun gwreiddgnydau – gyda chaniatâd – am eleni;
  • i gynaeafu ŷd sydd heb ei drin â chemegau cyn Gorffennaf 15 – yn hytrach nag Awst 1.

Mae ffermwyr sy’n dioddef o unrhyw broblemau eraill sy’n ymwneud ag opsiynau Glastir neu les anifeiliaid, yn cael eu cynghori i gysylltu â Taliadau Gwledig Cymru – un o gyrff Llywodraeth Cymru – am gymorth.

“Hyblygrwydd”

 “Mae’r cyfnod hir o dywydd twym a sych wedi bod yn gryn her i ffermwyr ledled Cymru,” meddai’r Ysgrifennydd dro Faterion Gwledig, Lesley Griffiths.

“Dw i’n awyddus i ni fedru cynnig hyblygrwydd iddyn nhw a dw i’n falch o fedru cyhoeddi bod rhagor o’r reolau Glastir yn cael eu llacio dro.

“Bydd hynny nid yn unig yn helpu ffermwyr i liniaru effeithiau’r cyfnod sych, ond yn eu galluogi hefyd i barhau i gyflawni’r ymrwymiadau sydd arnyn nhw dan Glastir.”