Mae’n “hawdd” cael gafael ar gyffuriau yng ngharchar enfawr gogledd Cymru.

Dyna yw casgliad adroddiad newydd gan y Bwrdd Monitro Annibynnol (IMB), a fu’n cynnal archwiliad o garchar y Berwyn yn Wrecsam.

Nid yw 20% o garcharorion y safle yn teimlo’n ddiogel, meddai’r corff, ac mae’n debyg mai cyffuriau sy’n bennaf gyfrifol am achosi’r trais yno.

Hefyd mae’r IMB  yn nodi bod problemau â chyffuriau wedi achosi cymaint o drafferth, fel bod rhai yn teimlo’r angen i “ffoi” i’r unedau ynysig.

Er hyn, mae’r adroddiad hefyd yn canmol y carchar gan ddweud: “Mae’r ffaith ei fod yn weithredol, gyda sawl esiampl o arferion da ac arloesol, yn gyrhaeddiad mawr.”

Adroddiad

Dyma’r adroddiad cyntaf gan yr IMB ynghylch carchar y Berwyn ers i’r safle £250 miliwn agor ym mis Chwefror 2017.

A daw ei gyhoeddi ddyddiau yn unig wedi i staff godi pryderon am ymosodiadau yno.