Mae Llywodraeth Cymru yn gwario £60m i sefydlu meithrinfeydd newydd ledled Cymru.

Daw yn rhan o ymrwymiad i ddarparu 30 awr o addysg a gofal plant am ddim i rieni mewn gwaith sydd â phlant rhwng tair a phedair oed – a hynny am gyfnod o 48 wythnos y flwyddyn.

Bydd yr arian yn cael ei rannu ymysg cynghorau sir, gyda’r nod o naill ai sefydlu meithrinfeydd newydd neu ailwampio’r rhai sydd eisoes yn bodoli.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd am sicrhau bod digon o ddarpariaeth ar gael yn yr ardaloedd iawn, a bod gwasanaethau gofal plant ar gael mewn ardaloedd gwledig a difreintiedig.

“Lleihau’r straen”

 Yn ôl y Gweinidog Plant, Huw Irranca-Davies, mae’n gobeithio y bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau bod “plant yn cael y dechrau gorau un mewn bywyd”.

Mae hefyd am “leihau’r straen” ar incwm ac oriau gweithio’r teulu.

“Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu i sicrhau bod y cynnig 30 awr mor glir a hawdd â phosib i rieni sy’n gweithio ei ddeall ac i blant fanteisio arno,” meddai.

“Fel rhan o hyn, mae angen inni ei gwneud yn bosib i rieni, lle bynnag y bo modd, ollwng eu plant a’u casglu o’r un safle, gan gael y 30 awr o ofal, er y bydd darpariaeth y tu allan i oriau arferol yn parhau i fod yn rhan bwysig o’r ateb i rai plant a rhieni.”