Protestiadau yng Nghymru yn erbyn Donald Trump

 
Aelodau o Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (WEN Cymru) mewn digwyddiad yng nghanol Caerdydd

Aelodau o Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (WEN Cymru) mewn digwyddiad yng nghanol Caerdydd ddoe, dydd Gwener

Llun oddi ar gyfrif Twitter Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (WEN Cymru)

Fe ymgasglodd cannoedd yn ninasoedd Cymru yn ystod y dydd ddoe (dydd Iau, Gorffennaf 12) mewn protest yn erbyn ymweliad Donald Trump a’r Deyrnas Unedig.

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau ar hyn o bryd ar ymweliad pedwar diwrnod â’r Deyrnas Unedig – ei ymweliad swyddogol cynta’ yn rhinwedd ei swydd fel Arlywydd.

Gyda miloedd wedi ymgynnull ar strydoedd Llundain, bu cannoedd yn rhan o brotestiadau yn Abertawe a Chaerdydd hefyd.

Roedd tua 300 o bobol yn protestio yng Nghaerdydd neithiwr, gyda digwyddiadau’n cael eu cynnal yng nghanol y ddinas ac yn y Senedd.

Un a oedd yn bresennol yn nigwyddiad Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru ym Mae Caerdydd oedd yr Aelod Cynulliad, Eluned Morgan.

Fe ddiolchodd hi’r mudiad am gynnal gwylnos yn erbyn Donald Trump y tu allan i’r Senedd, gan ychwanegu ei bod yn “falch” o fod wedi gallu ymuno â nhw mewn ail brotest yng nghanol y brifddinas.

Bydd Donald Trump yn cynnal trafodaethau â Phrif Weinidog Prydain, Theresa May, heddiw, cyn cyfarfod â’r Frenhines yng Nghastell Windsor.

Mae disgwyl rhagor o brotestiadau yn ystod y dydd, yn enwedig yng nghanol Llundain.

Mae disgwyl i falŵn ar ddelw Donald Trump gael ei ryddhau dros San Steffan.

 

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

1988-2018 Cylchgrawn Golwg yn 30 oed