Fe fydd taith yfory i ddangos cefnogaeth i Aelod Cynulliad sy’n brwydro canser,byn rhoi cyfle i bobol fedru “dangos faint maen nhw’n ei garu”.

Dyna yw gobaith Gail Davies, sef mam Steffan Lewis, yr Aelod Cynulliad Plaid Cymru a gyhoeddodd ym mis Rhagfyr y llynedd bod ganddo ganser y coluddyn.

Mae’r fam yn dweud bod y teulu wedi’i “syfrdanu’n llwyr” gan yr holl gefnogaeth gan bobol i ddigwyddiad ‘Taith Steffan Lewis’, a’u bod yn edrych ymlaen at weld ymateb Steffan.

“Dw i methu aros i weld wyneb Steff ar y diwrnod,” meddai Gail Davies wrth golwg360.

“A dw i’n edrych ymlaen iddo fe fedru gweld faint o bobol sydd wedi troi mas i ddangos faint maen nhw’n meddwl amdano. Faint maen nhw’n ei garu.

“Mae’n gyfle i ni ddweud, ‘dyma faint dw i’n caru ti’. Dyma beth r’yn ni’n meddwl amdano ti, dyma faint r’yn ni’n caru ti.

“Ni’n cerdded gyda fe ar y siwrne yma. A so’r siwrne’n stopo ar y daith. Mae’n dal i fynd. Ac r’yn ni’n mynd i fod gyda fe.”

Goleuni      

Mae Gail Davies yn nodi bod y digwyddiad wedi “bwrw’r teulu yn rhacs” – ond bod y canser hefyd wedi eu heffeithio.

“Bydd bywyd byth yr un peth eto,” meddai. “R’yn ni’n mynd mas a bwrw ymlaen â’n bywydau gan fod rhaid i ni. Mae’n bwysig ein bod ni, ac mae’n bwysig i Steff ein bod ni.

“Ond, r’ych chi’n cario rhywbeth gyda chi bob amser. Rhywbeth do’ch chi ddim yn cario gyda chi o’r blaen. A chi’n gwybod yn eich calon y bydd pethau byth yr un peth eto.”

Mae’n nodi wedyn ei bod wedi’i “hebrwng i dwnnel tywyll iawn”, a’i bod yn “edrych am y golau”.

Fe fydd y daith yn cynnig ysbaid o olau, meddai.