Bydd buddsoddiad o £3m yn dod i Gymru er mwyn gwneud mwy o waith ymchwil ar dechnoleg y gofod.

Mae’r arian, sy’n rhannol wedi dod drwy’r Undeb Ewropeaidd, wedi’i glustnodi er mwyn gwneud mwy o ddefnydd o dechnoleg lloeren a drôn i gasglu gwybodaeth ddaearyddol.

Mae’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi rhaglen newydd fydd yn cael ei harwain gan Brifysgol Aberystwyth a chwmni technoleg amddiffyn, QinetiQ, sydd â chanolfannau yn Aberporth yng Ngheredigion, Llanbedr yng Ngwynedd a Phentywyn, Sir Gâr.

Bydd y rhaglen Data Daearyddol ac Arsyllu ar y Ddaear ar gyfer Monitro (GEOM) yn defnyddio’r lloerennau mwyaf modern i arsyllu ar y ddaear.

Yn ôl y Llywodraeth, bydd modd i sectorau fel amaethyddiaeth, ynni, diogelwch, yr amgylchedd, trafnidiaeth a seilwaith, ddefnyddio’r dechnoleg lloeren a drôn i gasglu gwybodaeth “hanfodol”.

Mae hyn yn cynnwys defnyddio dronau i fapio’n fanwl unrhyw beryglon fel canghennau coed sydd wedi mynd yn rhy fawr, neu lethrau sydd wedi mynd yn rhy serth, ar ochrau llinellau rheilffordd, a allai fod yn ddrud ac yn beryglus ceisio casglu’r wybodaeth o lefel y tir.

Cyllid Ewrop  yn “bwysig”

Mae’r rhaglen yn cael £1.9m gan yr Undeb Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru.

“Mae sicrhau bod arbenigedd ac ymchwil arloesol o’r radd flaenaf ar waith yn ein prifysgolion, ac yn cydweithio â’n busnesau, yn denu buddsoddiad ac yn sbardun i gyflogadwyedd yn y sector hwn sy’n tyfu mor gyflym,” meddai Mark Drakeford.

“Mae Cymru wedi elwa’n fawr ar gyllid yr UE dros y blynyddoedd, ac mae hyn unwaith eto yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw hi i sicrhau bod cyllid ar gael i Gymru yn lle’r cyllid hwn ar ôl i’r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.”